Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, un sir oedd Morgannwg, o safbwynt Dinesig
ac o safbwynt Guides, ond dan ddylanwad Miss Olive Nicholl a Miss Heather
Kay penderfynwyd rhannu'r Sir yn dair, ac felly y ffurfiwyd Morgannwg
Ganol.
O Gynffig Burrows yn y dwyrain, ar draws Afon Ogwr ac ymlaen i Sain Tathan,
i'r gogledd i Bontypridd a Merthyr Tudful, i'r gorllewin ar draws flaenau
cymoedd Cynon a Rhondda cyn mynd yn ôl i lawr trwy Faesteg ac yn
ôl i'r arfordir. Dyma Forgannwg Ganol, yn eistedd rhwng Gorllewin
Morgannwg a Chaerdydd a Dwyrain Morgannwg. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach
gwnaeth yr Awdurdodau Bwrdeistrefol rywbeth tebyg a galw'r ardal yn Forgannwg
Ganol.
Miss Olive Nicholl oedd Comisiynydd cyntaf Sir Morgannwg Ganol, a'i syniad
hi oedd cael Tŷ Guides i'r Sir. Ar ôl dipyn o chwilio, llwyddwyd
i ddod o hyd i'r safle ar gyfer Gorwelion, ac adeiladwyd y tŷ. Byngalo
pren â theras yn tremio dros y twyni ym Mhorthcawl oedd hwn.
Yna daeth trychineb i'n rhan; torrodd fandaliaid i mewn a llosgi'r strwythur
gwreiddiol i'r llawr. Dim ond dwy eitem a oedd ar ôl yr oedd hi'n
bosibl eu defnyddio - cwpan Ewenny a’r sgrîn dân Gwylan,
ac mae'r rhain gennym ni hyd heddiw. Yn eofn, tyrrodd y Sir yn gefn i'r
mudiad a chafodd y tŷ ei ailadeiladu a'i ailagor ymhen blwyddyn. Ers hynny
rydyn ni wedi gallu prynu'r tir a bellach rydyn ni'n berchen ar dŷ a gwersyll
hyfryd yng Ngorwelion.
Rydyn ni hefyd yn gallu defnyddio Drws-y-Coed ar Stad Merthyr Mawr. Mae
hyn eto yn ddiolch i Miss Nicholl gan fod ei theulu'n berchen ar y Stad
a'i nith, Mrs Jenny McLaggan yw Llywydd ein Sir ar hyn o bryd.
Comisiynydd y Sir
Mrs. F. Ladbrooke
Cliciwch yma i gysylltu â ni.