Clwyd

Girl Guiding Clwyd

Baner y Sir

Mae’r faner yn cynnwys:

Meillionen y byd i ddangos ein bod ni’n aelodau o WAGGGS

Mae Lled y faner wedi’i rannu’n wyrdd ac yn wyn – mae’r gwyrdd yn cynrychioli’r awyr agored.

Mae arwyddair y GGA "Be prepared" wedi'i ysgrifennu yn Saesneg ar un ochr ac yn Gymraeg, sef "Byddwch yn barod", ar yr ochr arall.

Y Ddraig Goch - arwyddlun Cymru.

Mae'r losen yn cynnwys Llew Sir Ddinbych a Brân Goesgoch (aderyn) Sir y Fflint.

Mae'r losen yn dangos ein bod yn sefydliad i ferched, ac mae'r llew a'r frân goesgoch yn eitemau herodrol o Arfbeisiau'r hen siroedd.

Y castell yw'r gofadail ar Foel Famau sy'n cynrychioli hen ffin y ddwy sir yn ogystal â bod yn fan uchaf y sir newydd, sy'n cynrychioli delfrydau uchaf y Guides.

Mae'r border glas a melyn yn defnyddio lliwiau traddodiadol GGA.

Mae sir Girlguiding Clwyd yng Ngogledd Cymru. Mae’n ymestyn o ffin Cymru/Lloegr yn Nwyrain Cymru tua 50 milltir tuag at Arfordir Gorllewinol y Wlad. Mae’n ymestyn i’r de mor bell â thref Corwen. Daeth Clwyd i fodolaeth ym 1974. Cafodd ei ffurfio pan ad-drefnwyd llywodraeth leol, ac unwyd hen siroedd Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Clwyd ydyw o hyd, er bod llywodraeth leol wedi’i had-drefnu eto ac mae sir wleidyddol Clwyd wedi’i rhannu yn dair sir, sef Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae Girlguiding Clwyd bellach yn cynnwys y tair sir yma.
Mae gan y Sir:

31 Uned Rainbows

95 Uned Brownies

50 Uned Guides

 3319 o aelodau

Mae gan y Sir ei chanolfan ei hun, “Tŷ-Clwyd”, sydd yng nghefn gwlad ger Abergele. Prynwyd y tir un ar ddeg mlynedd yn ôl, yn bennaf trwy ddigwyddiadau codi arian yn y Sir. Agorodd E.H.B. y Dywysoges Margaret y ganolfan, cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn. Ers hynny mae’r lleoliad wedi’i ddatblygu ac mae’n cynnwys pedwar gwersyll mawr a thŷ unllawr. Mae’r tŷ wedi’i ehangu ac mae bellach yn cynnwys lle i 24 o bobl ifanc a’u harweinwyr gysgu.

I gael mwy o wybodaeth

Comisiynydd y Sir
Mrs. Vivienne Craig

Cliciwch yma i gysylltu â ni.

Gwefan wedi’i dylunio ac yn cael ei chynnal gan Mid Wales Design