Adult Leaders

Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych

Pam mae ar Guiding angen mwy o help?

Mae gennym ni 50,000 o ferched ar ein rhestrau aros. Trwy wirfoddoli fel Arweinydd neu gynorthwy-ydd uned, byddwch chi’n galluogi sawl un o’r merched hyn i gymryd rhan ym myd guiding.

Fel gwirfoddolwr, byddwch chi’n cael boddhad mawr o wylio’r merched yn eich uned yn datblygu eu hyder a’u sgiliau, yn ogystal â chael llawer o hwyl. Hefyd, bydd gweithio i wella’ch cymuned, yn uniongyrchol gyda’r merched ac o bosib y tu allan i’r uned ar brosiectau cymunedol, yn rhoi ymdeimlad enfawr ichi o gyrhaeddiad personol.

Fel gwirfoddolwr, byddwch chi hefyd yn elwa o’r profiad trwy wneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd fel y gallu i arwain a threfnu. Gallwch chi ddefnyddio’r sgiliau hyn yn y gwaith a’u rhoi ar CV.

Sut galla’ i chwarae rhan ym myd Guiding?

Mae yna sawl ffordd o helpu sy'n gweddu i bobl sydd â diddordebau a ffyrdd o fyw gwahanol.

  • Os ydych chi'n brin o amser neu os ydych chi'n ansicr p'un a yw guiding yn addas ar eich cyfer chi, efallai yr hoffech chi gymryd rhan yn ein Her 12 Awr. Gallwch chi ddysgu mwy am yr Her 12 Awr yma.
  • Mae dod yn Arweinydd uned guiding yn ymrwymiad rheolaidd a thymor hir, ond mae'n llawer o hwyl ac yn rhoi boddhad anhygoel.
  • Mae yna nifer o rolau gwirfoddoli eraill ar gael yn Girlguiding UK - mae rhai ohonyn nhw i'w gweld yn y tabl isod.
  A oes gwisg? Oed? Benyw/Gwryw?
Arweinydd Uned Oes 18-65 Benyw
Cynorthwy-Ydd Uned Nac oes 18-65 Y naill neu’r llall
Rhiant/Cynorthwy-Ydd Achlysurol Nac oes 18+ Y naill neu’r llall
Arweinydd Ifanc Oes 14-18 Benyw
Cynorthwy-Ydd Gwersyll/Gwyliau Pac/Gwibdeithiau Nac oes 18+ Y naill neu’r llall
Cynorthwy-Ydd Achlysurol – Cynnal a Chadw Nac oes 18+ Y naill neu'r llall
Cynorthwy-Ydd Achlysurol - Gyrrwr Nac oes 21+ Y naill neu'r llall
Gweinyddwr Uned/Rhanbarth Nac oes 18+ Y naill neu'r llall
Cydlynydd Rhodd Cymorth Uned/Rhanbarth Nac oes 18+ Y naill neu'r llall
Comisiynydd Oes 18-65 Benyw
Cynorthwy-Ydd Achlysurol - Cynorthwy-Ydd Depo Nac oes 18+ Y naill neu'r llall
Ysgrifennydd Rhanbarthol Nac oes 18+ Y naill neu'r llall
Trysorydd Uned/Rhanbarth Nac oes 18+ Y naill neu'r llall
Cynghorydd Cysylltiadau Cyhoeddus Nac oes 18+ Y naill neu'r llall
Aelod Urdd Trefoil Nac oes 18+ Y naill neu'r llall
Hyfforddwr Oes 18-65 Y naill neu'r llall
Codwr Arian Nac oes 18+ Y naill neu'r llall
Cynghorydd Arbenigol Nac oes 18+ Y naill neu'r llall

Does gen i ddim cefndir mewn Guiding. Ydy hynny'n gwneud gwahaniaeth?

Nac ydy – y cwbl sydd ei angen arnoch chi yw ymrwymiad i bobl ifanc, brwdfrydedd a synnwyr digrifwch.

Fedrwch chi roi 12 awr (neu fwy) o’ch amser i wneud rhywbeth ar gyfer merched eleni? Os felly, gallwch chi gymryd rhan yn ein Her 12 Awr.

Nid oes agenda wedi’i gosod ar gyfer yr her, felly mae gennych chi reolaeth lwyr dros sut rydych chi'n treulio'r 12 awr. Gallech chi wneud unrhyw beth, o helpu grŵp o Brownies i ennill eu bathodyn Garddwr i helpu uned ailwampio’u safle. Os ydych chi wrth eich bodd yn coginio, pam na wnewch chi rannu’ch sgiliau â grŵp o Guides mewn gwersyll, neu os ydych chi’n dipyn o law gyda rhifau, pam na wnewch chi helpu uned â’u cyfrifon?

Ffoniwch 0800 169 590 1 i gael mwy o wybodaeth neu i fynegi’ch diddordeb.

Mae fy mhlentyn i yn Brownie; oes yna unrhyw beth y galla' i ei wneud i helpu?

Mae gan lawer o unedau rota, lle mae grŵp o rieni, aelodau teulu sy'n oedolion neu wirfoddolwyr eraill sy'n oedolion yn cymryd eu tro i helpu yng nghyfarfod yr uned. Bydd eich cyfle chi i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau a gemau mae'r merched yn eu mwynhau yn dod i'ch rhan rhyw unwaith neu ddwywaith y tymor.

Os ydych chi'n brin o amser neu os ydych chi'n ansicr p'un a yw guiding yn addas ar eich cyfer chi, efallai yr hoffech chi gymryd rhan yn ein Her 12 Awr.

Fydda' i'n cael fy nhalu?

Na fyddwch. Fodd bynnag, mae'n bosibl ad-dalu costau unrhyw offer, bwyd neu gyflenwadau eraill rydych chi'n eu prynu ar gyfer uned, ac felly hefyd costau gweinyddol a threuliau teithio sy'n ymwneud â guiding. Pan fyddwch chi'n gwirfoddoli, bydd eich Comisiynydd lleol yn gallu dweud mwy wrthoch chi am hyn. Bydd llawer o unedau hefyd yn talu am wisg Arweinydd.

Oes yn rhaid i mi wisgo gwisg?

Nac oes. Nid oes gwisg ar gyfer llawer o rolau gwirfoddoli gyda Girlguiding UK. Dim ond aelodau cyflawn, yn cynnwys Arweinwyr Uned a Chomisiynwyr, sy'n gorfod gwisgo dillad guiding mewn cyfarfodydd, er bod yna amrywiaeth o ddillad hamdden guiding ar gael i'r holl wirfoddolwyr pe bydden nhw'n dewis eu gwisgo.

Oes yna unrhyw gyfyngiadau o ran oedran i gynorthwywyr?

Os ydych chi rhwng 18 a 65 oed, rydych chi'n gymwys i ddod yn wirfoddolwr gyda Girlguiding UK. Tra bod Girlguiding UK yn cydnabod bod llawer o fenywod yn berffaith abl i wirfoddoli y tu hwnt i 65 oed, mae yna rai eraill sy'n llai galluog i wneud hynny. Nid yw hyn yn golygu nad oes yna ffyrdd gwerthfawr o barhau i ymwneud â'r sefydliad. Efallai y byddech chi am ymuno â grŵp sgiliau, helpu â chyfrifon uned neu ddod yn gynorthwy-ydd achlysurol.

A fydd angen i mi gael gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB)?

Rydyn ni'n cymryd diogelwch pobl ifanc o ddifrif, ac felly mae gofyn i'r holl wirfoddolwyr sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc gwblhau gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol. Mae'r weithdrefn yn rhwydd, a byddwn ni'n darparu'r holl help a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi i'w chwblhau.

Beth yw'r broses ar gyfer ymuno?

Cliciwch yma i gysylltu â ni, a byddwn ni’n anfon eich manylion at eich Comisiynydd lleol, a fydd yn cysylltu â chi cyn bo hir.

Gwefan wedi’i dylunio ac yn cael ei chynnal gan Mid Wales Design