Adran o Gymdeithas y Guides heb wisg swyddogol. Ei nod yw cynnal ysbryd yr Addewid a’r Gyfraith, a chynnig help ymarferol i Guiding.
Mae Urdd Trefoil yn galluogi dynion a menywod i sefydlu, ac yn fwy aml, i gynnal eu cysylltiadau â Guiding. Nid yw aelodau’n gwisgo gwisg swyddogol.
Mae Urdd Trefoil yn cynnig cyfleoedd i aelodau gyfarfod â ffrindiau, datblygu diddordebau, mynd i’r afael â heriau newydd a mwynhau gwyliau gyda’i gilydd. Mae aelodaeth hefyd yn golygu bod yn weithredol yn y gymuned ehangach, fel unigolyn neu fel Urdd, trwy waith gwirfoddol neu drwy ymrwymiad arall.
Ar hyn o bryd mae gan yr Urdd Trefoil yng Nghymru tua 800 o aelodau ac mae yna Urddau mewn 12 Sir yn y Wlad.
Gall unrhyw un 18 oed a hŷn fod yn aelod, os ydyn nhw wedi bod yn aelod o Gymdeithas y Guides neu Gymdeithas y Scouts neu os ydyn nhw’n gwneud Addewid y Guides.
Rydym yn croesawu pobl heb unrhyw ymwneud blaenorol â Guiding - dynion a merched - cyn belled â'u bod yn barod i barchu nodau a delfrydau mudiad y Guides. Gall unrhyw un 18 oed a hŷn fod yn aelod cyswllt, os oes ganddyn nhw naill ai Cerdyn Penodiadau Uned Guider neu Warant Comisiynydd yng Nghymdeithas y Guides neu Warant yng Nghymdeithas y Scouts. (Gall unrhyw un 18 oed a hŷn nad ydyn nhw wedi gwneud Addewid y Guides nac Addewid y Scouts, ond sy’n cefnogi nodau ac egwyddorion y ddwy Gymdeithas, gael aelodaeth gyswllt.) Mae'r Urdd hefyd yn aelod o'r International Scout and Guide Fellowship ac mae ganddi gysylltiadau ledled y byd.
Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at trefoilwalescymru@yahoo.co.uk neu ewch i'r Wefan trefoilguildwales cymru.org.uk