Brownies

In4mers

In4mers In4mers

4 yw menter newydd dysgu oddi wrth gyfoedion Girlguiding UK

Bellach gall aelodau'r Adran Hŷn, rhwng 14-26 oed, hyfforddi i fod yn In4mers, teithio i unedau, grwpiau ieuenctid ac ysgolion gan ddefnyddio technegau dysgu oddi wrth gyfoedion i rannu sgiliau a phrofiad ag eraill. P'un a ydych chi'n Ranger, yn Arweinydd Ifanc, yn Guider neu'n syml am fod yn In4mer, gallwn gynnig rhaglen gyffrous o hyfforddiant a chyfleoedd i chi, all gyfrif tuag at Wobr Guide y Frenhines, Gwobr Dug Caeredin a Her Chief Guide er enghraifft. Menter y mae DfES yn ei hariannu mewn partneriaeth â Connexions yw 4.

Gallwch gymryd rhan yn 4 yn rhad ac am ddim ac mae arian ar gael ar gyfer prosiectau.

Sut galla' i gymryd rhan?

Bob blwyddyn mae hyfforddiant yn cael ei gynnig yn genedlaethol, sy'n darparu ar gyfer pob angen, o anghenion y rheiny sydd wedi bod yn addysgu cyfoedion yn y gorffennol i anghenion y rheiny sy'n hollol newydd i'r cysyniad.

Gweithgareddau Blasu

Rhowch gynnig ar weithgareddau i gael cyflwyniad i 4 a chael blas arno. Edrychwch ar dudalennau gwe yr Adran Hŷn i gael syniadau o fis Ebrill 2004 ymlaen.

Hyfforddiant Sylfaenol

Y cam nesaf i bobl heb unrhyw brofiad blaenorol o ddysgu oddi wrth gyfoedion, neu ag ychydig bach o brofiad yn unig. Bydd hyfforddiant deuddydd yn rhoi ichi'r holl sgiliau y bydd eu hangen arnoch chi a'r wybodaeth am ddau bwnc i roi cychwyn ichi.

"rydym ni'n symud ymlaen, yn adeiladu ar ein cryfderau"

Hyfforddiant Gloywi

Os ydych chi wedi cael rhywbeth i'w wneud â dysgu oddi wrth gyfoedion yn y gorffennol, bydd yr hyfforddiant deuddydd yma'n ddelfrydol i chi. Yr holl newyddion diweddaraf am y newidiadau a chyfle i wella'r sgiliau sydd gennych chi eisoes. Dylai'r rheiny sydd eisoes yn addysgu cyfoedion gymryd rhan mewn Hyfforddiant Gloywi cyn cychwyn ar y fenter newydd.

Hyfforddiant Pwnc

Cynhelir hyfforddiant undydd tair gwaith y flwyddyn i roi gwybodaeth ac adnoddau sy'n ymwneud â phynciau i'w hychwanegu at eich portffolio 4.

Hyfforddiant Uwch

Gall In4mers profiadol gymryd rhan yn yr hyfforddiant yma i ennill y sgiliau sydd eu hangen i ddangos i ferched mewn unedau sut i addysgu cyfoedion. Gall y rhain fod yn Brownies yn eu Sixes, Arweinwyr Patrol yn eu patrolau a hyd yn oed Guiders yn eu Timau Arwain. Cysylltwch â'r pencadlys i gael mwy o fanylion am yr hyfforddiant yma.

Mae'n ymwneud â gweithio "4wards, 4self, 4others"

Rolau i'r rheiny dros 26 oed

Nid yw gadael yr Adran Hŷn yn golygu na allwch chi chwarae rhan yn 4 mwyach. (Os ydych chi dan 26 oed, gallwch chi gyflawni'r rolau yma hefyd).

Cefnogwyr

Gallech chi fod yn gyswllt i In4mers lleol trwy ddod yn Gefnogwr - rhywun sy'n cynnig cyfarwyddyd a chefnogaeth ar faterion sy'n ymwneud â 4 ac i'r bobl ifanc sy'n cyflawni'r fenter.

Cydlynwyr

Gan weithio gyda Chefnogwyr, In4mers a Thîm Adran Hŷn y Sir, byddwch yn goruchwylio ac yn monitro 4 yn eich ardal leol.

Nid ar gyfer yr Adran Hŷn yn unig mae 4; mae ar gyfer unedau hefyd.

Beth all 4 ei wneud i fy uned i?

Os byddwch chi'n gwahodd In4mers i'ch grwpiau a'ch unedau chi, gall fod yn brofiad gwych. Gallwn redeg sesiynau ar bynciau fel Anhwylderau Bwyta, Ffoaduriaid ac effaith y Cyfryngau. Mae 4 yn ffordd arloesol a chyffrous o gynyddu ymwybyddiaeth o faterion yn eich grwpiau, wrth i bobl ifanc ddysgu oddi wrth eu cyfoedion.

"Mae dysgu oddi wrth gyfoedion yn ymwneud â dysgu oddi wrth ein gilydd - pobl debyg yn rhannu gwybodaeth".

Gwefan wedi’i dylunio ac yn cael ei chynnal gan Mid Wales Design