Llais y Ddraig yw’r Cyngor Ieuenctid ar gyfer Girlguiding Cymru. Mae ganddo o leiaf ddau gynrychiolydd o bob un o’r pedair sir ar ddeg, Cyngor Ieuenctid Cymru, In4mers a’r Timau Cynllunio Arloesol. Mae’r aelodau rhwng 16 a 25 oed ac yn gwasanaethu am dair blynedd. Cyngor yw Llais y Ddraig lle bydd aelodau’n trafod materion sy’n ymwneud â’r Gymdeithas a rhai nad ydyn nhw’n ymwneud â’r Gymdeithas. Ymhlith y pynciau a drafodwyd yn ddiweddar mae Cronfa Wella Broneirion, Y Bwthyn, digwyddiadau blynyddol, gwisg Girlguiding, hawliau’r plentyn, SSAGS a Myfyrwyr yn symud i ardaloedd newydd pan fyddan nhw’n mynd i’r brifysgol.
Mae gan y Cyngor Ieuenctid gyswllt uniongyrchol â Girlguiding Cymru ac mae Cadeirydd Llais ar Bwyllgor Gweithredol Cymru, sy’n rhoi cyfle iddi fynegi barn aelodau Llais. Yn eu cyfarfodydd, bydd pob cynrychiolydd ar Llais yn cael cyfle i fynegi barn a chyfrannu at drafodaethau. Hefyd, anogir yr aelodau i ddod â thrafodaethau a phynciau o’u siroedd a’u cynghorau eu hunain i’r cyfarfodydd. Mae hyn yn bwysig i ni oherwydd ei fod yn golygu bod barn ieuenctid Cymru’n cael ei chlywed.
Mae Llais y Ddraig wedi mynd ati i chwarae rhan mewn llawer o ddigwyddiadau
Girlguiding Cymru, gan gynnwys Gwersyll Draig y Coed yn 2003, lle gwnaethom
drefnu’r adloniant min nos ar gyfer y Guides a’r Adran Hŷn.
Ymhlith y nosweithiau roedd “darllediad byw” BBC Wales a gemau
cod. Mae’r prif ddigwyddiadau eraill wedi cynnwys Get Global yn
2004, lle gwnaethom helpu â Dysgu gan Gyfoedion, Arddangosfeydd
Diwylliannol a Gweithdai Canu a Phenwythnosau’r Adran Hŷn, lle buom
yn arwain tanau’r gwersyll ac yn rhedeg sesiynau. Rydym hefyd yn
mynychu Sioe Frenhinol Cymru, gan gynorthwyo’r sir sy’n noddi
â’i dyletswyddau a threfnu adloniant min nos ar gyfer y Guides.
Rydym hefyd yn cynorthwyo yn Cyfeillion Ifanc trwy gynnal gweithgareddau
a darparu cefnogaeth.
Yn 2006, roedd hi’n ben-blwydd Llais y Ddraig yn 25 oed, ac fe wnaethom ddathlu mewn steil! Crëwyd bathodynnau Pen-blwydd. Fe wnaethom gynnal barbeciw ar gyfer cyn-aelodau ac aelodau cyfredol Llais y Ddraig. Daeth Debbie Ashton, cadeirydd cyntaf Llais i ddweud wrthym ni sut y dechreuodd Llais, ac am y mathau o drafodaethau a dadleuon roedden nhw’n arfer â’u cael. Un drafodaeth roedd hi’n cofio’i chael oedd defnyddio cyfrifiaduron yn Girl Guides Cymru. Digrif yw meddwl am hyn a chithau’n eistedd yma’n darllen am Llais ar y we. Mae’n gyflawniad gwych bod y cyngor iau yn dal i fod yn gryf ac yn parhau i gael trafodaethau bywiog a chyfoes yn ogystal ag ymwneud â llawer o ddigwyddiadau y mae Girlguiding Cymru yn eu cynnal, a digwyddiadau yng Nghymru nad ydyn nhw’n ymwneud â’r mudiad.
Mae pob Sir yng Nghymru’n gobeithio cael cyngor iau gweithredol ar gyfer aelodau rhwng 14 a 26 oed. Mae’r cynghorau hyn yn gallu rhoi adborth ar faterion sydd o bwys i aelodau’r adran hŷn yn y siroedd, a mynegi eu barn. Mae hyn yn galluogi’r Adran Hŷn yng Nghymru i ddweud eu dweud ar faterion sy'n effeithio arnyn nhw.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o Gyngor Iau eich sir
neu mewn bod yn aelod o Llais y Ddraig, cysylltwch â Chadeirydd
Llais y Ddraig, eich Comisiynydd Sir neu gynrychiolydd Llais y Ddraig
yn eich sir.
Neu gallwch anfon e-bost at Llais y Ddraig: Llais@hotmail.co.uk