Dechreuwyd Guiding yn Sir Drefaldwyn ym 1919 gan Miss Monica Woosnam (yn ddiweddarach Mrs. R MacPherson), a’i chwaer Miss Gaynor Woosnam (yn ddiweddarach Mrs J. E. M. Richard). Rhoddwyd Baner y Sir i’r Sir gan Uwchgapten Richard (Y Gwarchodlu Du), er cof am ei ddiweddar wraig. Cyflwynwyd y faner ar ei ran gan ei chwaer hi yn Rali’r Sir ym 1933, a gynhaliwyd yn Neuadd Tre’r-llai.
Yr arwyddluniau ar y Faner yw:- Bathodyn y Guides
Llew Rampant Sir Drefaldwyn
Dau far croes â’r geiriau “Fidelity and Rememberance” arnyn nhw
Yna tri sbrigyn o Rhosmari
A’r Afon Hafren yn rhedeg ar hyd y Faner
Mae Sir Drefaldwyn yn ddwfn yng nghalon Canolbarth Cymru.
Mae’n ymestyn o ddyfroedd llanw’r Afon Dyfi yn y gorllewin, hyd at y ffin â Lloegr yn y dwyrain – 790 milltir sgwâr o ucheldiroedd hardd a dyffrynnoedd gwyrdd.
Yn y gogledd, mae’r Afon Efyrnwy’n llifo trwy gefn gwlad hyfryd, o Fynyddoedd trawiadol y Berwyn i Ddyffryn Meifod. Yn y gorllewin mae dwy o afonydd mwyaf godidog Prydain, yr afon Hafren a’r afon Gwy yn tarddu o ucheldiroedd Pumlumon. Mae dyffryn Hafren yn ysgubo’n fawreddog trwy ddwyrain Sir Drefaldwyn ac mae’n darparu’r brif ffordd i ymwelwyr i mewn i’r sir.
Sir wledig yw Sir Drefaldwyn yn bennaf. Ffermio yw asgwrn cefn a chalon
y rhan fwyaf o gymunedau’r sir, o ddyffryn ffrwythlon yr Afon Hafren
i’r ffermydd mynydd anghysbell. Bellach, mae Sir Drefaldwyn, Sir
Frycheiniog a Sir Faesyfed yn ffurfio awdurdod unedol Powys.
Comisiynydd y Sir
Mrs. Pam Lyons
Cliciwch yma i gysylltu â ni.