Gwobr Guide y Frenhines yw’r Wobr orau bosib mewn Guiding, ac mae ar gael i holl aelodau’r Adran Hŷn sydd rhwng 16 a 25 oed.
Mae’r Wobr yn cyflwyno cyfres o heriau i’r rhai sy’n cymryd rhan. Mae’r heriau hyn yn caniatáu i unigolion roi gwasanaeth cyson i Guiding ac i’r Gymuned. Mae’r Wobr wedi’i seilio ar gysyniad her bersonol a chyfranogiad, gan roi cyfle i unigolion ddatblygu sgiliau trwy weithgareddau. Mae’r rhain yn cynnwys:
I ddod yn Guide y Frenhines, rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan gwblhau pum adran y Wobr cyn pen 3 blynedd, oni bai y cytunwyd ar seibiant wedi’i gynllunio o flaen llaw.
I roi cychwyn arni, dylai unigolion:
Mae’n bosib y bydd gweithgareddau a wneir ar gyfer Gwobr Guide y Frenhines yn cyfrif hefyd tuag at Look Wider a Gwobr Dug Caeredin; fodd bynnag, rydyn ni’n argymell bod y rhai sy’n cymryd rhan yn edrych ar y maes llafur perthnasol i wneud yn siŵr o hyn.
I gael mwy o wybodaeth am y Wobr,
cliciwch yma i gysylltu â ni.