Mae aelodau'r Adran Hŷn rhwng 14 a 25 oed a gallan nhw fod yn Rangers, yn Arweinwyr Ifanc neu'n Guiders Unedau.
Fel aelod o'r Adran Hŷn gallwch gymryd rhan yn rhaglen newydd Look Wider, gan weithio gyda'ch cyfoedion neu ar eich pen eich hun i gyflawni nodau personol ac i archwilio diddordebau arbennig. Gall aelodau gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau a phrosiectau llawn her, yn y wlad yma a thramor.
Pan fyddwch chi'n 16 oed gallwch ddewis gweithio tuag at y Cymhwyster Oedolion Arwain, a dod yn Guider â gwarant pan fyddwch chi'n 18 oed.
Bydd aelodau'n dysgu sut i weithio mewn tîm, yn dysgu sut i drefnu a chyfathrebu'n effeithiol, yn ennill sgiliau newydd ac yn datblygu hyder; pethau sy'n edrych yn dda ar CV! Bydd aelodau'r Adran Hŷn yn cael llawer o hwyl ac yn gwneud ffrindiau sy'n gallu para oes, felly beth am ymuno â ni?
I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma i gysylltu â ni. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i aelodau'r Adran Hŷn trwy fynd i dudalennau Girlguiding UK's Senior Section ar eu gwefan.