Mae Ynysgain oddeutu milltir o Gricieth, hanner ffordd rhwng Cricieth
a Llanystumdwy ar yr A497.
Mae Ynysgain ar ymyl Parc Cenedlaethol Eryri, gyda thir fferm o’i
amgylch. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar y rhan
fwyaf o’r tir fferm yma. Mae ei leoliad yn ddelfrydol ar gyfer gweithgareddau
awyr agored, gan gynnwys chwaraeon dŵr, cerdded a dringo.
Tua phum munud ar droed o Ynysgain mae yna draeth sy'n frith o gregyn a cherrig. Mae llawer o adar y môr yn cartrefu ar y traeth, ac mae morloi yn byw yn y dŵr bas ar yr arfordir.
Mae’r tri eiddo preswyl wedi’u hadeiladu o gerrig o amgylch iard fawr.
Mae pob un o’r pedwar gwersyll yn ei gae ei hun gyda gât
ar bob cae, a gwrychoedd, waliau cerrig a choed o’u hamgylch. Gellir
llogi offer gwersylla ym mhob un o’r safleoedd.
Tŷ fferm ag ynddo ddigon o offer ar gyfer 16 o bobl (4 Oedolyn, 12 Merch). Gosodwyd ffenestri a drysau gwydr dwbl ar yr eiddo yma yn ddiweddar. Mae wedi’i ailweirio, a gosodwyd gwres canolog llosgi olew ynddo, gyda rheiddiaduron ym mhob ystafell. Mae system rhybuddio tân yn adeilad Tŷ Ni, gyda rheolyddion ‘torri gwydr’ a drysau tân.
Ysgubor carreg wedi’i throsi yw’r eiddo yma (yn addas ar gyfer cadair olwyn). Mae lle ynddi i 13 o bobl (3 Oedolyn, 10 Merch). Mae system rhybuddio tân a phwyntiau ‘torri gwydr’ yn yr eiddo.
Mae’r bwthyn cerrig bychan yma’n cynnig lle i 11 gysgu ynddo (2 Oedolyn, 9 Merch).
Gellir cynnig llety i 20 – 30 o wersyllwyr ar y safle yma. Mae dŵr ar gael o dap ym mhen y cae. Mae yna 3 thoiled dwrlif a 3 chiwbicl ymolchi (dim tapiau yn y ciwbiclau). Mae gan Safle 1 gysgodfan gadarn o gerrig y drws nesaf i’r Bwthyn, yn yr iard – mae yna bwyntiau pŵer trydan ac oergell-rhewgell yno.
Mae yna ffynnon wedi’i gorchuddio yn nghornel dde uchaf y safle (yr agosaf at y ffordd). Ni cheir cynnau tanau ar y arwyneb concrid, ac ni ddylai gwersyllwyr fynd i’r ardal gaeedig.
Gellir cynnig llety i 35 - 40 o wersyllwyr ar y safle yma. Mae dŵr ar gael o’r iard (y tu allan i’r Bwthyn). Mae gan Safle 2 gysgodfan gadarn o gerrig yn yr iard, lle mae yna oergell a rhewgell a 4 pwynt trydan. Mae yna 5 toiled dwrlif a 3 chawod ar y safle, ger y gysgodfan gadarn.
Gellir cynnig llety ar gyfer hyd at 50 o wersyllwyr yma. Mae dŵr ar gael y tu allan i floc y cawodydd yn yr iard. Mae yna 3 thoiled dwrlif yng ngwaelod gardd Tŷ Ni sydd y drws nesaf i’r safle.
Cae ger yr iard yw’r Cae Bach, ac mae’n ddefnyddiol fel
safle gorlif o’r gwersylloedd neu’r eiddo eraill, fel gwersyll
bychan neu ar gyfer gwersylla ysgafn. Nid oes toiledau na chysgodfan gadarn
ar y safle yma.
I gael mwy o wybodaeth ac i weld a oes modd i chi archebu lle cliciwch yma.